Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


19 Trowbridge


19 ardal gymeriad Trowbridge: tirwedd eithaf syml yn y gefnffen isel. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 084)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'n debyg i'r dirwedd hon gael ei chreu yn y cyfnod canoloesol, ond ar ôl i'r ardaloedd uwch ar yr arfordir gael eu hanheddu.

Ychydig o gyfeiriadau dogfennol sydd at yr ardal hon, a ddefnyddid yn ôl pob tebyg ar gyfer porfeydd a dolydd haf yn unig.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Patrwm caeau rheolaidd o gaeau hirsgwar, lonydd gwyrdd, mân aneddiadau amaethyddol, draeniau gan gynnwys prif ffosydd ac enghreifftiau ardderchog o gefnennau arwyneb

Mae'r dirwedd hon yn cwmpasu rhan o ardal cefnffen is Gwastadedd Gwynllwg yn bennaf ym mhlwyf Llaneirwg. Mae'n ffinio â thirwedd Rufeinig Llanbedr i'r de (ardal 17), ac ardal 18 i'r gorllewin.

Ardal anghysbell iawn o dirwedd ydyw, sy'n cynnwys blociau bach o gaeau hirsgwar, o fewn fframwaith a greir gan brif ffosydd a lonydd gwyrdd bach. Nid oes unrhyw briffyrdd a dim ond un fferm. Mae rhai ardaloedd ardderchog iawn o gefnennau arwyneb wedi goroesi.

Mae'r gwrychoedd yn amrywio, ond yn nodweddiadol o'r rhannau is o Wynllwg, yn aml maent ar goll; mae ffosydd caeau yn llawn cyrs ac ambell helygen yn nodweddiadol, sy'n rhoi naws gwlyptir gryf i'r ardal. Nid ydynt yn cuddio'r tai a'r datblygiadau diwydiannol ysgafn i'r gogledd a'r gorllewin o'r golwg ryw lawer.

Amharwyd ar ei chyfanrwydd a'i chydlyniant fel tirwedd hanesyddol, ond mae i'r ardal hon werth uchel o hyd. Ardal o dirwedd ydoedd a oedd yn eithaf nodweddiadol o dirwedd Wynllwg, a gynhwysai gaeau cul hir, ambell brif ffos a dim aneddiadau. Mae'r cefnennau arwyneb wedi'u cadw mewn cyflwr arbennig o dda. Mae gwaith datblygu tameidiog wedi achosi rhywfaint o ymrannu, ond mae i'r ardaloedd hyn werth ecolegol o hyd a gallent fod yn fannau gwyrdd adloniadol. Maent hefyd yn "glustogfa" rhwng y datblygiadau hyn a'r tirweddau sydd wedi'u cadw mewn cyflwr gwell i'r de.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk